Mae carw anwes yn Awstralia wedi lladd ei berchennog ac wedi anafu ei wraig yn dilyn ymosodiad.
Fe ddigwyddodd wrth i’r dyn 46 oed mynd at yr anifail yn Moyhu yn nhalaith Victoria a chafodd ei wraig ei hanafu ar ôl clywed sŵn yn dod o’r tu allan.
Cafodd y carw ei saethu gan yr heddlu cyn i barafeddygon drin y cwpl.
Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, a chafodd ei wraig ei chludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Melbourne, lle mae hi mewn cyflwr difrifol.
Mae lle i gredu bod y carw’n byw gyda’r teulu ers dwy flynedd, ond mae’r awdurdodau’n dweud y gall eu hymddygiad fod yn anwadal.
Mae ceirw yn byw yn Awstralia ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond dydyn nhw ddim fel arfer yn cael eu cadw’n anifeiliaid anwes.