Mae ysgol lle cafodd 12 o ddisgyblion ac athro eu lladd ar Ebrill 20, 1999 yn wynebu bygythiadau i ladd unwaith eto.
Bu’n rhaid cau ysgol Columbine yn Denver yn nhalaith Colorado heddiw (dydd Mercher, Ebrill 17) ar ôl i ddynes ifanc sydd ag obsesiwn am yr ysgol wneud y bygythiadau.
Mae’r heddlu’n chwilio am Sol Pais, 18, sydd wedi gorfodi mwy nag ugain o ysgolion eraill i gau.
Mae’r awdurdodau’n trin y bygythiad fel un difrifol, ar ôl clywed ei bod hi wedi teithio o Miami yn Fflorida i Denver yn Colorado, a’i bod hi wedi prynu dryll a ffrwydron.
Mae rhybudd i bobol yn Denver i beidio â mynd ati os ydyn nhw’n ei gweld hi gan ei bod hi’n “beryglus dros ben”.