Mae Lenin Moreno, arlywydd Ecwador, wedi cyhuddo Julian Assange o groesawu hacwyr i lysgenhadaeth y wlad yn Llundain.
Mae’n ei gyhuddo o roi cyfarwyddiadau iddyn nhw ynghylch cael mynediad i wybodaeth wleidyddol ac ariannol bwysig.
Ymhlith y rhai sydd wedi’u hamau o fod yn eu plith mae Ola Bini, sydd wedi’i gadw yn y ddalfa yn Ecwador ar amheuaeth o hacio ffonau gwleidyddion a thrigolion y wlad.
Cafodd Julian Assange ei arestio’r wythnos ddiwethaf ar ôl gadael y llysgenhadaeth.
Achos Julian Assange
Cyn ei arestio, roedd Julian Assange wedi cael lloches yn llysgenhadaeth Ecwador ers chwe blynedd.
Mae trigolion Ecwador yn protestio erbyn hyn yn erbyn honiadau Lenin Moreno am Julian Assange, ynghyd â nifer o faterion eraill.
Mae Julian Assange bellach yn y ddalfa yn Llundain i’w ddedfrydu ar ôl torri amodau ei fechnïaeth er mwyn osgoi cael ei anfon yn ôl i Sweden i wynebu cyhuddiadau o dreisio.
Mae’r Unol Daleithiau hefyd yn awyddus i’w estraddodi ar amheuaeth o gynllwynio i dorri i mewn i system gyfrifiadurol y Pentagon.
Mae Lenin Moreno yn cyhuddo’i ragflaenydd Rafael Correa o hwyluso ymddygiad a throseddau honedig Julian Assange.
Mae llywodraeth Ecwador yn mynnu bod Ola Bini wedi ymweld â Julian Assange o leiaf ddwsin o weithiau yn y llysgenhadaeth yn Llundain.
Mae e wedi’i gadw yn y ddalfa am hyd at dri mis, wrth aros i glywed a fydd e’n wynebu troseddau’n ymwneud â hacio.