Fe allai’r heddlu fod wedi ymyrryd yn y gyfres o ymchwiliadau i honiadau o droseddau rhyw yn erbyn yr Arglwydd Janner.

Bu farw Aelod Seneddol Caerlŷr, oedd yn enedigol o Gaerdydd, yn 2015 heb gael ei gyhuddo o’r un drosedd, yn wyneb honiadau bod rhai o’r troseddau wedi digwydd mor bell yn ôl â 1955.

Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd diben dwyn achos yn ei erbyn, ac mae ei deulu’n parhau i fynnu ei fod yn ddieuog.

Ymchwiliadau

Ond ers ei farwolaeth, fe fu’r honiadau a’r ffordd yr aeth yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron ati i gynnal ymchwiliad yn destun sawl ymchwiliad.

Mae’r ymchwiliad diweddaraf yn canolbwyntio ar ymddygiad yr heddlu.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n dweud ei bod yn ymddangos na chafodd ymchwiliad llawn ei gynnal, a bod awgrym fod yr heddlu wedi ymyrryd yn y math o ymchwiliad sydd wedi cael ei gynnal.

Gall hyn fod oherwydd nad oedd yr heddlu’n credu’r cwynion, meddai’r Comisiwn.

Dyw hi ddim yn glir, chwaith, pwy oedd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am yr ymchwiliad.

Roedd disgwyl i’r gwrandawiad cyhoeddus cyntaf gael ei gynnal fis nesaf, ond mae oedi’n golygu y bydd yn cael ei gynnal ym mis Medi.

Mae cwyn wedi cael ei chyflwyno ar ôl i adroddiad i’r ymchwiliad gael ei gyhoeddi ar gam.