Erthyliad wedi bod yn anghyfreithlon yn Ne Corea ers 1953

 

Mae Llys Cyfansoddiadol De Corea wedi dyfarnu bod gwaharddiad degawdau hir y wlad ar erthylu yn mynd yn erbyn ei chyfansoddiad.

O ganlyniad, bydd cyfreithiau’r wlad ar erthylu yn cael eu llacio.

Mae erthylu wedi bod yn anghyfreithlon yn Ne Corea ers 1953, heblaw am rai eithriadau, fel pan mae dynes yn cael ei threisio.

Dywed panel cyfiawnder y llys ei fod wedi gofyn i’r senedd greu deddfwriaeth i lacio rheoliadau ar erthylu erbyn diwedd 2020.

Bydd y gwaharddiad ar erthylu yn cael ei ddiddymu os bydd y senedd yn methu â llunio deddfwriaeth newydd erbyn hynny.