Mae llywodraethwr cyffredinol Seland Newydd wedi llofnodi’n ffurfiol ddeddfau gynnau sy’n gwahardd arfau steil milwrol.

Daw hyn llai na mis ar ol i ddyn ddefnyddio gynnau o’r fath i ladd 50 o bobol ac anafu dwsinau mewn dau fosg yn Christchurch.

Rhoddodd Patsy Reddy ei lofnod ar y bil wrth i’r heddlu gyhoeddi y bydd rhaglen prynu gynnau yn ôl yn cael ei lansio i gasglu’r arfau sydd bellach wedi’u gwahardd.

Bydd y gynnau yn anghyfreithlon o hanner nos heddiw (Dydd Iau, Ebrill 11), a dywed yr heddlu bydd cyfnod i berchnogion y gynnau hyn hysbysu’r awdurdodau.

O hyn ymlaen mae unrhyw un sy’n cadw arf o’r fath yn wynebu cosb o hyd at bum mlynedd yn y carchar.

Mae eithriadau yn caniatáu arfau etifeddol  gan gasglwyr neu arfau a ddefnyddir i reoli plâu yn broffesiynol.

Pasiodd Tŷ’r Cynrychiolwyr ddydd Mercher (Ebrill 10) drwy bleidlais derfynol o 119-1 i greu deddfwriaeth yn gwahardd yr arfau ar ôl proses gyflym o drafod a chyflwyno i’r cyhoedd.