Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi caniatáu estyniad chwe mis i Brexit ar ôl pum awr o drafodaethau ym Mrwsel neithiwr (nos Fercher, Ebrill 11).

Hydref 31 yw’r dyddiad newydd y bydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, os yw cytundeb y Prif Weinidog, Theresa May, yn cael cefnogaeth gwleidyddion.

Mae’r dyddiad cau hyblyg yn golygu na fydd yn rhaid i wledydd Prydain adael yr Undeb ddydd Gwener (Ebrill 12), gydag Aelodau Seneddol yn dal i fethu ä chytuno ar fargen.

Neges arlywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, i’w “ffrindiau Prydeinig” oedd “plîs peidiwch â gwastraffu amser”.

Roedd Theresa May wedi mynd i Frwsel yn y gobaith o gael gohiriad byrrach ar ôl datgan y byddai gwledydd Prydain yn anelu at adael yr Undeb Ewropeaidd cyn gynted â phosib.

Mae’n rhaid i wledydd Prydain nawr gynnal etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai, neu adael ar Fehefin 1 heb gytundeb.

Yn ôl y Cyngor Ewropeaidd  hefyd ni ellir ail-agor y trafodaethau cytundeb ymadael.