Mae nifer y bobol sydd wedi eu lladd gan seiclon Idai yn ne Affrica bellach yn fwy na mil.

Dywed gweinidog wybodaeth Zimbabwe fod y nifer yn ei wald wedi codi 334, tra mae Mozambique yn adrodd 602 o farwolaethau a Malawi yn adrodd o leiaf 59.

Yn ôl Monica Mutsvangawa mae’r ymdrech nawr wedi ei “gyfyngu i adfer y rhai sydd wedi marw” ac mae patholegwyr wedi cael eu danfon yno i enwi’r cyrff.

Mae Zimbabwe yn dweud fod angen o £468m i helpu’r goroeswyr ac yn galw am gefnogaeth ryngwladol.

Seiclon Idai yw un o’r “stormydd gwaethaf ar gofnod yn hemisffer y de” meddai’r Cenhedloedd Unedig.

Nid oes gwybod beth yw’r nifer terfynol o farwolaethau eto ac efallai na chawn fyth.