Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn dweud mai hybu Cymreictod, ac nid yr iaith Gymraeg, oedd diben Gŵyl Croeso ar ddydd gŵyl Dewi eleni, wrth iddyn nhw gyfiawnhau diffyg Cymraeg yn y digwyddiad.
Daw sylwadau’r cyngor yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth sydd wedi’i weld gan golwg360 ynghylch y digwyddiad a gafodd ei gynnal yng nghanol y ddinas ar Fawrth 1 a 2.
Cafodd y cais ei gyflwyno ar ôl i’r digwyddiad gael ei drefnu yn lle’r digwyddiad AberDewi arferol, a gafodd ei symud i Dreforys eleni a hynny, meddai’r trefnwyr am fod y Cyngor Sir yn ystyried y digwyddiad yn brotest yn hytrach na dathliad.
Mae’r cais yn gofyn am fanylion costau cyllido’r digwyddiad, cost artistiaid unigol, hysbysebu digwyddiadau uniaith Saesneg, safon y Gymraeg ar ddeunydd marchnata, a pherthynas y Cyngor â’r cwmni oedd yn gyfrifol am drefnu’r adloniant.
Mae’r cais yn mynd yn ei flaen i feirniadu’r diffyg cydbwysedd rhwng y Gymraeg a Saesneg yn ystod sesiynau’r ŵyl, a diffyg ymwybyddiaeth y cyngor o’r gerddoriaeth gyfoes sy’n boblogaidd ymhlith Cymry Cymraeg.
Costau
Yn eu hymateb, mae’r Cyngor yn dweud iddyn nhw neilltuo cyllideb gros o £30,692 a chyllideb net o £26,942.50 ar gyfer y digwyddiad, a bod cyfanswm o £8,760 wedi’i wario ar y perfformwyr llwyfan, cogyddion, adroddwyr straeon a diddanwyr stryd.
Ond maen nhw’n gwrthod datgelu costau unigol yr artistiaid unigol, gan ddweud bod y wybodaeth yn “fasnachol sensitif”.
Cost isadeiledd y digwyddiad oedd £18,812.50, a hynny’n cynnwys pŵer a dosbarthu, pebyll mawr, cegin, diogelwch, cymorth cyntaf a ffensys.
Perthynas y cyngor â threfnwyr adloniant
Mae’r cais yn codi cwestiynau hefyd am berthynas y cyngor â Swansea Music Hub, oedd wedi’u cyflogi i drefnu’r adloniant, ond a hysbysebodd bandiau uniaith Saesneg yn unig.
Roedd digwyddiadau Swansea Music Hub, meddai’r cais, yn ail ar restr o uchafbwyntiau’r ŵyl, a’r rheiny wedi’u cynnal mewn dau leoliad yn y ddinas – tafarnau’r Perch a’r Three Lamps.
“Roedd yr artistiaid yn The Perch a’r Three Lamps wedi perfformio cerddoriaeth o darddiad Cymreig yn ystod y penwythnos, ac roedd nifer sylweddol o gerddorion stryd wedi gwneud hynny hefyd yn ystod y dydd,” meddai’r cyngor.
“Roedd digrifwyr a beirdd dwyieithog yn perfformio ar y ddwy noson hefyd.”
Wrth egluro rôl Swansea Music Hub yn y digwyddiad, dywed y cyngor mai eu dyletswyddau oedd “cysylltu â lleoliadau cerddoriaeth yng nghanol y ddinas a’u gwahodd i fod yn rhan o’r ŵyl, darparu a rheoli artistiaid lleol i berfformio yn y nosweithiau mewn lleoliadau lleol, darparu a rheoli beirdd a digrifwyr lleol i berfformio yn y nosweithiau, darparu cerddorion stryd i berfformio ar y ddau lwyfan yng nghanol y ddinas yn ystod y dydd, cydlynu’r amserlenni cerddoriaeth a’r artistiaid, a helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r ŵyl drwy Swansea Music Hub.”
Mae costau’r cytundeb, meddai’r cyngor, unwaith eto, yn “fasnachol sensitif”.
“Nid ydym yn ymrwymedig i roi unrhyw gyllid blynyddol i’r Music Hub ac nid oes cytundeb ar waith gennym i wneud hyn,” meddai’r cyngor wrth ymhelaethu ar y berthynas.
“Ariennir yr Hub gan Ŵyl Ryngwladol Abertawe. Nid yw Gwasanaeth Diwylliannol y cyngor yn ymgynghori â nhw’n rheolaidd ar wella mesurau ar gyfer cerddorion lleol.
“Nid oes gennym unrhyw gysylltiad ychwaith ag unrhyw gytundeb ariannol rhwng yr Hub a Llywodraeth Cymru.”
Safon cyfieithu a diffyg cydbwysedd
Mae’r cais yn nodi bod “safon cyfieithiad y poster yn sarhad llwyr”, wrth ddatgan bod “dau noson o hwyl fawr” yn yr ŵyl sydd, meddai’r cais, yn gallu golygu “two nights of big fun / goodbye”, er mai’r Saesneg oedd “two evenings of top notch fun”.
Yn ôl y cyngor, cafodd y daflen ei llunio gan Swansea Music Hub, ond fe fydd y cyngor, meddai, “yn sicrhau bod eich sylwadau’n cael eu trosglwyddo iddynt fel rhan o’n hadroddiad am y digwyddiad”.
Mae’r cais hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg cydbwysedd rhwng y Gymraeg a Saesneg yn ystod sesiynau llwyfan, ac nad oedd “unrhyw hysbysebu ai sesiynau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg” oedden nhw.
Mae’n cyhuddo’r cyngor o “drefnu gŵyl dan faner â’i neges yw dewch i ddathlu eich Cymreictod drwy’r Saesneg”.
Mae’r cyngor yn dweud “nad diben digwyddiad Croeso yw ei gynnal fel digwyddiad Cymraeg ei iaith nac fel digwyddiad i hyrwyddo’r Gymraeg yn benodol”.
“Ei ddiben oedd dathlu Dydd Gŵyl Dewi a diwylliant Cymru’n fwy cyffredinol, fel yr adlewyrchwyd yn y rhaglen,” ychwanega’r cyngor.
Roedd y Gymraeg yno…
Wrth nodi’r Gymraeg oedd i’w chlywed yn y digwyddiad, mae’r cyngor yn nodi bod Wynne Roberts yno fel cyflwynydd, dau gogydd Cymraeg eu hiaith, cyflwynwyr llwyfan dwyieithog (Helen Enser Morgan a Gareth Potter), a’r artistiaid Brigyn, Olion, Gildas a Lowri Evans, ynghyd â rhywfaint o Gymraeg gan Ysgol Berfformio Mark Jermin, Swyn, Sian Richards, Perfformwyr Welsh Factor Cymru, Sing Swansea a Ragsy.
Yn eu pebyll, meddai’r Cyngor, roedd cynrychiolwyr o Fenter Iaith Abertawe, Cymraeg i Oedolion, Merched y Wawr, Cymraeg i Blant, Siop Tŷ Tawe a Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.
Yn ôl y cyngor, roedd yr arlwy o adloniant yn “oddrychol” ac yn ceisio apelio at “gynulleidfa darged amrywiol”.