Mae heddlu ym mhrifddinas yr Almaen yn chwilio am 30 o safleoedd sy’n gysylltiedig ag eithafwyr asgell dde ym Merlin a tair talaith arall yn nwyrain yr Almaen.

Dywed asiantaeth newyddion DPA yr Almaen bod y rhan fwya’ o’r archwilio bellach wedi digwydd yn nhalaith Brandenburg a’r ardal o gwmpas Cottbus, tua 62 milltir i’r de ddwyrain o’r ddinas.

Yn ôl heddlu Brandenburg, mae’r archwiliad yn canolbwyntio ar tua 20 o bobol, sydd â chysylltiadau i sin hwligan, crefftau ymladd ac eithafwyr asgell-dde’r Almaen.

Mae gan Cottbus sin Natsïaidd gymharol fawr sy’n gysylltiedig â phrif dîm pêl-droed y ddinas, Energie Cottbus.

Daw’r archwiliadau diwrnod ar ôl i awdurdodau yn Awstria archwilio dwsinau o gartrefi mewn nifer o daleithiau ble cafwyd hyd i arfau a nifer fawr o ddeunydd propaganda sydd wedi’u gwahardd.

Nid oes unrhyw adroddiadau o arestiadau wedi bod ar hyn o bryd.