Mae o leia’ chwech o bobol wedi marw ar ôl i storm daro gogledd orllewin Pacistan.

Mae nifer o bobol eraill wedi cael eu hanafu yn y storm yn nhalaith Khyber Pakhtunkhwa, sydd ar y ffin ag Affganistan.

Yn ôl llefarydd ar ran awdurdod rheoli trychinebau y dalaith, fe gafodd nifer o dai eu difrodi a bu rhai heb drydan am oriau, ond mae’r sefyllfa bellach dan reolaeth.

Mae stormydd a glaw tymhorol yn aml yn difrodi tai yn yr ardal.

Mae tymor monsŵn y wlad yn dechrau ym mis Gorffennaf ac mae glaw trwm yn creu llifogydd bob blwyddyn.