Mae grŵp o 14 o sefydliadau gwyddoniaeth Ewrop yn cynllunio i dyllu at rew hyna’r byd fel rhan o ymchwil i hinsawdd y byd yn y gorffennol.
Dywed consortiwm sy’n cael ei arwain gan Sefydliad Alfred Wegener yn yr Almaen ei fod wedi nodi ardal yn yr Antartig o’r enw Little Dome C, ble mae rhew 1.5 miliwn oed.
Mae mesur craidd y rhew yn hanfodol er mwyn i wyddonwyr geisio dod i ddeall newid yn yr hinsawdd. Fe ftddan nhw hefyd yn helpu’r gwaith o fodelu a rhagweld cynhesu neu oeri byd-eang yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae mesuriadau craidd rhew yn darparu data dibynadwy sy’n mynd yn ôl tua 800,000 o flynyddoedd.
Mewn cyfarfod yn Fienna, dywed y sefydliadau eu bod wedi treulio’r tair blynedd diwethaf yn cydweithio gyda gwyddonwyr yn America, Awstralia, Siapan a Rwsia i benderfynu’r safle gorau un i dyllu.