Fe allai cwpwl o Sir Benfro gael hyd at £1,500 am gasgliad o lestri tsieina a gafodd eu defnyddio mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Swffragetiaid yn 1909.

Roedd y bowlen siwgr a’r platiau yn rhan o gasgliad ehangach a ddyluniwyd gan Sylvia Pankhurst, sef merch y swffragét enwog, Emmeline Pankhurst.

Cafodd y llestri eu defnyddio mewn arddangosfa yn 1909, gyda holl elw’r digwyddiad yn cael ei gyfrannu tuag at yr ymgyrch i sicrhau’r hawl i ferched bleidleisio.

Cafodd ‘Arddangosfa’r Merched’ ei chynnal yn ardal Knightsbridge, Llundain.

“Eitemau prin”

Cafodd y llestri, sy’n cynnwys dyluniad o angel â thrwmped yn cario baner ‘Rhyddid’, eu defnyddio yn ystafell fwyd yr arddangosfa, cyn cael eu gwerthu’n ddiweddarach.

Fe gawson nhw eu creu gan gwmni HM Williamson o Longton, Swydd Stafford, ac maen nhw hefyd yn cynnwys lliwiau mudiad y Swffragetiaid, sef piws ar gyfer ffyddlondeb ac urddas; gwyn ar gyfer purdeb, a gwyrdd ar gyfer gobaith.

Bydd y casgliad yn cael ei werthu yn Ystafelloedd Arwerthu Chippenham ar Fai 4, ac mae disgwyl iddyn nhw gyrraedd pris o £1,500.

“Mae’r rhain yn eitemau prin ac yn rhan o stori un o fudiadau gwleidyddol pwysicaf yr 20fed ganrif yng ngwledydd Prydain,” meddai Richard Edmonds, y prif arwerthwr.