Mae cyn cyfarwyddwr Sefydlaid Cerddoriaeth Cymru (WMF) a ffigwr mawr ym myd cerddorol Cymru a gwledydd Prydain, Alan James, wedi marw yn 62 oed.
Bu farw fore Sul (Ebrill 7) yn dilyn cyfnod byr yn dioddef o sgil-effeithiau strôc, ac mae teyrngedau lu wedi eu rhoi iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Chwaraeodd Alan James ran allweddol yn sefydlu rhai o wyliau cerddorol a chelfyddydol mwyaf gwledydd Prydain fel The Big Chill a WOMAD.
Bu hefyd yn rhaglennu yn y Midlans Arts Centre ym Mirmingham cyn ymuno a Chyngor Celfyddydol Lloegr ble’r oedd yn bennaeth ar gerddoriaeth gyfoes.
Yn dilyn, fe ddaeth yn gyfarwyddwr ar Sefydliad Cerddoriaeth Cymru a Cerdd Cymru – partneriaeth wnaeth wahodd gŵyl WOMEX i Gaerdydd yn 2013.
Mor drist i glywed am farwolaeth Alan James. Unigolyn angerddol a chynnes. Heddwch i’w lwch. https://t.co/e0eiL0iDT4
— Gareth Bonello (@ghbonello) April 8, 2019
Saddened and shocked to learn of the death of Alan James. This is a lovely tribute : “Grieving for my great friend and all-round maverick Alan James” | Campfire Convention https://t.co/mwXyzLX5CE
— John Rostron (@john_rostron) April 8, 2019
Trist iawn clywed pnawn ‘ma am golli Alan James, cyfaill annwyl a chyd aelod o fwrdd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig gynt a chefnogwr brwd o’n cerddoriaeth draddodiadol. Bydd colled mawr ar ei ôl.
— Dafydd M Roberts (@dafyddm) April 7, 2019
https://realworldrecords.com/news/remembering-alan-james/?fbclid=IwAR3S9_uo2wvCTomy6QdrPC2Er5XTwugywe10U_eMYVc3u4YZwbWgdEF41X4