Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o gyflawni’r ymosodiad yn ninas Christchurch y mis diwethaf yn wynebu 50 cyhuddiad o ladd a 39 cyhuddiad o geisio lladd, wrth iddo wneud ei ail ymddangosiad gerbron y llys.
Mae disgwyl i Brenton Harrison Tarrant, 28, ymddangos drwy gyfrwng fideo mewn gwrandawiad byr ddydd Gwener (Ebrill 5), lle nad oes disgwyl iddo gyflwyno ple.
Bu farw 50 o bobol o ganlyniad i’r ymosodiad ar ddau fosg ar Fawrth 15, tra bo 50 arall wedi eu hanafu.
Mewn datganiad byr, dywed yr heddlu eu bod nhw’n ystyried cyflwyno rhagor o gyhuddiadau yn erbyn Brenton Harrison Tarrant, ond dydyn nhw ddim am wneud sylw pellach ar y mater, hyd yn hyn.
Roedd y saethwr honedig wedi ymddangos gerbron Llys Rhanbarthol Christchurch ddiwrnod ar ôl yr ymosodiad.
Ond mae’r achos bellach wedi ei symud i’r Uchel Lys, oherwydd difrifoldeb y cyhuddiadau dan sylw.