Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth sydyn merch, 13, yn ardal Pennar, Doc Penfro.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r lleoliad am 6.45yh neithiwr (dydd Mercher, Ebrill 3).

Ond daeth cadarnhad yn ddiweddarach gan barameddygon eu bod hi wedi marw.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, dyw’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae’r crwner wedi ei hysbysu, medden nhw ymhellach, ac mae teulu’r ferch ar hyn o bryd yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

“Mae hwn yn drasiedi a dw i’n anfon fy meddyliau ymlaen at y teulu ar ran Heddlu Dyfed-Powys,” meddai’r Prif Arolygydd Andy Pitt.