Bydd pleidleiswyr yn etholaeth Gorllewin Casnewydd yn dewis Aelod Seneddol newydd heddiw (dydd Iau, Ebrill 4) mewn isetholiad lle mae disgwyl i Brexit chwarae rhan allweddol.
Cafodd yr isetholiad ei alw yn dilyn marwolaeth y diweddar Paul Flynn, a fu farw yn 84 oed ar Chwefror 17.
Roedd yr Aelod Seneddol Llafur wedi llwyddo i ddal y sedd am gyfnod o 32 mlynedd, ac mae’r ymgeisydd Llafur, Ruth Jones, yn hyderus y gall hi ennill.
Yn draddodiadol, mae’r ddinas yn gyffredinol wedi bod yn gadarnle i’r Blaid Lafur, ond mae sylwebyddion yn credu y gall canlyniad yr isetholiad gael ei effeithio gan Brexit.
Yn y refferendwm yn 2016, fe bleidleisiodd 56% o bobol Casnewydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, tra bo 44% eisiau aros.
Daw’r isetholiad wrth i’r Prif Weinidog, Theresa May, gwrdd ag arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, am yr eildro heddiw er mwyn ceisio cael datrysiad i Brexit.
Yr ymgeiswyr
Bydd y blychau pleidleisio yn cau am ddeg o’r gloch heno, ar ôl agor am saith y bore yma.
Mae disgwyl y canlyniad naill ai yn hwyr heno neu yn ystod oriau mân y bore yfory.
Mae’r ymgeiswyr yn cynnwys:
- Ruth Jones – Llafur
- Neil Hamilton – UKIP
- Matthew Evans – Ceidwadwyr
- Jonathan Clark – Plaid Cymru
- Ryan Jones – Democratiaid Rhyddfrydol
- Amelia Womack – Y Blaid Werdd
- Richard Suchorzewski – ‘Abolish the Welsh Assembly Party’
- June Davies – ‘Renew’
- Ian McLean – SDP
- Hugh David James Nicklin – ‘The For Britain Movement’
- Phillip Taylor – Plaid y Democratiaid a’r Cyn-filwyr