Mae disgwyl i Theresa May ac arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, gyfarfod eto heddiw (dydd Iau, Ebrill 4) er mwyn trafod Brexit.
Daw ar ôl i Aelodau Seneddol gymeradwyo cynigion ar gyfer gohirio Brexit ymhellach yn ystod pleidlais agos iawn yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr.
Cafodd fesur drafft yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (Rhif 5) ei gymeradwyo ar y trydydd darlleniad o 313 pleidlais i 312.
Mae’r mesur, a gafodd ei gynnig gan y cyn-weinidog Llafur, Yvette Cooper, yn gorfodi’r Prif Weinidog i ofyn am ganiatâd gan Aelodau Seneddol os yw hi am gael estyniad arall i Erthygl 50, a hynny y tu hwnt i’r dyddiad cau presennol, Ebrill 12.
Mae’r cyfan yn rhan o ymgais gan aelodau i atal gwledydd Prydain rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Bu Brexitwyr y Blaid Geidwadol yn gwrthwynebu’r mesur yn chwyrn, yn enwedig wrth iddo gael ei gymeradwyo drwy bob cam yn Nhŷ’r Cyffredin mewn mater o oriau.
Dywedodd yr Aelod Seneddol, Peter Bone, fod angen i Lefarydd y Tŷ, John Bercow, “roi stop ar y ffars” ac atal unrhyw bleidleisiau pellach.
Yn ôl Yvette Cooper, a oedd yn siarad wedi’r bleidlais, mae cymeradwyo’r mesur yn enghraifft o Aelodau Seneddol yn mynegi eu “pryderon go iawn” ynghylch Brexit ‘dim cytundeb’.
Ychwanegodd fod y mesur hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiad Theresa May i beidio â gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Ebrill 12.