Mae swyddogion yn y Ffilipinau wedi mynegi eu sioc ar ôl dod o hyd i 757 o bryfed cop tarantwla mewn bocsus a gafodd eu cludo o wlad Pwyl.
Mae dyn o’r ynysoedd wedi cael ei arestio ar ôl ceisio hawlio perchnogaeth o’r corynnod mawr gwenwynig ym maes awyr rhyngwladol Manila.
Fe gawson nhw eu canfod mewn bocsus a oedd yn cynnwys bisgedi a blawd ceirch.
Mae cyfraith Y Ffilipinau yn gwahardd pobol rhag masnachu, casglu neu fod ym meddiant tarantwlas heb drwydded, er eu bod nhw’n anifeiliaid anwes poblogaidd.
Dywed swyddogion y maes awyr eu bod nhw wedi meddiannu cannoedd o anifeiliaid gwyllt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys llawer i igwana, camelion a draig farfog.