Bydd dynes o Ffostrasol yn mynd gerbron ynadon yn Aberystwyth heddiw (dydd Mercher, Ebrill 3) ar ôl gwrthod talu am ei thrwydded deledu.
Mae Eiris Llywelyn, 68, yn un o fwy na 80 o bobol sy’n ymgyrchu am drosglwyddo pwerau darlledu o San Steffan i Fae Caerdydd.
Hi yw’r trydydd person i fod yn y llys mewn perthynas â’r ymgyrch, ar ôl Heledd Gwyndaf a William Griffiths y llynedd.
Mae 65% o drigolion Cymru’n cefnogi trosglwyddo’r pwerau, yn ôl arolwg barn gan YouGov.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi eu syniadau nhw ar sut y dylid mynd ati i ddatganoli darlledu a sut y byddai ei ariannu.
Yn ôl y ddogfen Datganoli Darlledu i Gymru, gellid denu llawer mwy o gyllid i ariannu darlledu yng Nghymru wrth nid yn unig ddatganoli’r ffi drwydded ond hefyd trwy osod ardoll ar gwmnïau mawr sydd yn gwneud arian o weithredu yng Nghymru – cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook.
‘Brwydr dros ddyfodol ein hiaith’
“Mae’r ymgyrch hon yr un mor bwysig â brwydr y 70au a’r 80au dros sefydlu’r sianel,” meddai Eiris Llywelyn.
“Mae’n frwydr dros ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau a dros ddemocratiaeth.
“Mae democratiaeth yn amhosibl os na fyddwn yn cael rheolaeth ar y cyfryngau – a’r cyfyngau’n adlewyrchu ein gwerthoedd a’n diwylliant ni a’n bod ni’n gweld y byd drwy ffenestr Gymreig.
“Mae datganoli’r system ddarlledu yr un mor bwysig â datganoli grym gwleidyddol.
“System ddarlledu sy’n cael ei rhedeg o San Steffan yw’r un bresennol. Cawn ein trin fel rhan o Loegr gan yr holl ddarlledwyr Prydeinig a phropaganda Prydeinig a ddarlledir i ni yng Nghymru yn feunyddiol.
“San Steffan sy’n dal yr awenau. Dyma sy’n gyfrifol am y merddwr darlledu yng Nghymru a pham mai dim ond un sianel deledu sydd gennym – a sicrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol honno yn y fantol; un orsaf radio ac ychydig oriau ar ail orsaf.
“Gadewir i gwmnïau masnachol gael rhwydd hynt i wneud beth a fynnon nhw â radio lleol a dileu’r ychydig oriau Cymraeg a arferai gael eu darlledu.
“Mae’r diffyg ar blatfformau eraill yn drychinebus a Chymru ymhell ar ôl yn y chwyldro digidol. Ni fydd yr iaith fyw oni bai ei bod yn cael ei defnyddio ar draws pob cyfrwng a’i bod yn briod iaith cyfryngau digidol yng Nghymru.”
‘Diffyg cynnwys Cymraeg yn ofid’
“Mae prinder cynnwys Cymraeg ar y we yn fater o ofid ac os nad yw’r Gymraeg yn weledol ac yn addasu i’r oes ddigidol fydd dim dyfodol iddi,” meddai wedyn.
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gweld y peryglon hyn i gyd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod pwerau darlledu a chyfathrebu yn cael eu datganoli.”