Mae’r gymuned ryngwladol wedi beirniadu bwriad Brunei i gyflwyno cyfreithiau sy’n cynnwys cosbi hoywon drwy daflu cerrig atyn nhw.
Mae’r cyfreithiau newydd, a fydd yn dod i rym heddiw (dydd Mercher, Ebrill 3), hefyd yn cynnwys cosbi lladron drwy dorri rhannau o’u corff i ffwrdd.
Yn ôl y grŵp hawliau dynol, Amnesty International, mae’r mesurau yn “greulon”, tra bo’r actor George Clooney wedi galw ar eraill i foicotio gwestai moethus yn Ewrop a’r Unol Daleithiau sydd â chysylltiad â phennaeth Brunei, Swltan Hassanal Bolkiah.
Mae diplomyddion o’r Almaen hefyd wedi lleisio eu barn ynghylch y cyfreithiau gan apelio ar lysgennad Brunei i “barchu hawliau dynol rhyngwladol”.
Mae rhai hefyd yn dweud y dylai anrhydedd a gafodd ei gyflwyno i’r Swltan yn ystod ymweliad swyddogol â’r Almaen yn 1998, gael ei dynnu’n ôl.
Ond mae’r Arlywydd, Frank-Walter Steinmeier, wedi dweud nad oes modd gwneud hynny.