Mae arweinydd yr wrthblaid yn Feneswela, Juan Guaido, wedi colli ei hawl i beidio â chael ei erlyn, yn dilyn penderfyniad gan Gynulliad y wlad.

Fe all hyn arwain at arestio’r gwleidydd am fynd yn groes i gyfansoddiad Feneswela ar ôl iddo enwi ei hun yn Arlywydd dros dro ddechrau’r flwyddyn.

Mae Juan Guaido yn arwain ymgyrch rhyngwladol i ddisodli Arlywydd Nicolas Maduro a’i weinyddiaeth sosialaidd yn sgil anrhefn yn y wlad.

Mewn ymateb i’r bleidlais a gafodd ei chynnal gan y Cynulliad Cenedlaethol, mae Juan Gauido wedi addo brwydro ymlaen, er gwaethaf y ffaith bod yna beryg y gallai gael ei “herwgipio” gan Lywodraeth Nicolas Maduro.

Dyw’r Llywodraeth ddim wedi cadarnhau hyd yn hyn os ydyn nhw am erlyn Juan Guaido.