Mae cyn-brif weinidog Malaysia wedi ymddangos gerbron llys ar ddechrau achos lle mae’n cael ei erlyn am dwyll.
Daw achos Najib Razak union ddeng mlynedd ers iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog y wlad, swydd a ddaliodd tan y llynedd pan gollodd mewn etholiad yn dilyn honiadau ei fod wedi camddefnyddio arian y wladwriaeth.
Mae ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau yn dweud bod mwy na $4.5bn wedi ei ddwyn o gronfa fuddsoddi’r 1MDB gan swyddogion Najib Razak rhwng 2009 a 2014.
Maen nhw hefyd yn dweud bod yr arian wedi cael ei wyngalchu trwy wahanol gyfrifon banc yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill, gyda’r arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu ffilmiau Hollywood a phrynu gwestai, llongau moethus, darnau o gelf a gemwaith.
Roedd tua $700m o’r gronfa wedi ymddangos yng nghyfrif banc Najib Razak ei hun, meddai’r ymchwilwyr.
Mae’r gwleidydd 65 oed wedi gwadu unrhyw ddrwgweithredu ar ei ran.