Mae disgwyl i Theresa May gwrdd â Jeremy Corbyn er mwyn cynnal trafodaethau ar Brexit, cam sydd wedi gwylltio rhai aelodau o’i phlaid ei hun.
Dywedodd y Prif Weinidog mewn datganiad neithiwr (dydd Mawrth, Ebrill 2) y byddai’n gofyn i’r Undeb Ewropeaidd am estyniad y tu hwnt i Ebrill 12 er mwyn sicrhau digon o amser ar gyfer cynnal trafodaethau gydag arweinydd y Blaid Lafur.
Y nod yn hyn o beth, meddai, yw sicrhau bod gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd “mewn modd trefnus”.
Mae Jeremy Corbyn wedi ymateb drwy ddweud y byddai’n “hapus iawn” i gwrdd â Theresa May mewn ymgais i gynnig “sicrwydd a diogelwch” i bobol gwledydd Prydain.
Mae rhai Ceidwadwyr – sydd fwyaf o blaid Brexit – wedi beirniadu’r cam, gyda Jacob Rees-Mogg, cadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, yn cyhuddo Theresa May o gydweithio â “Marcsydd amlwg”.
Yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, mae’n “siomedig” bod y Cabinet wedi dewis cynnwys Jeremy Corbyn a’r Blaid Lafur yn y cynlluniau ar gyfer camau olaf Brexit.
Mae’r DUP wedyn yn dweud eu bod nhw am aros i weld os bydd y bartneriaeth bosib rhwng Theresa May a Jeremy Corbyn yn dod i ben fel un “hapus”.