Mae saith i bobol wedi cael eu lladd a 28 wedi’u hanafu ar ôl i dân gynnau mewn adeilad 21 llawr  yn Dhaka, prifddinas Bangladesh.

Fe fu nifer o bobol yn sownd yn yr adeilad am gyfnod, ond yn ôl swyddogion y gwasanaeth tân ac achub, mae’r mwyafrif o bobol wedi cael eu cario allan yn ddiogel.

“Mae’r sefyllfa o dan reolaeth,” meddai llefarydd. “Ond, er bod y fflamau dan reolaeth, dydyn nhw ddim wedi’u diffodd yn llwyr.”

Fe gynheuodd y tân yn adeilad Tŵr FR ar stryd brysur yn ardal fasnachol o’r ddinas.