Mae wedi dod i’r amlwg fod tri o bobol wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â gwrth-semitiaeth honedig o fewn y Blaid Lafur.

Cafodd dyn yn ei 50au ei arestio yn Birmingham ar Fawrth 7; dyn arall yn ei 50au ei arestio yn Tundridge Wells ar Fawrth 14; a dynes yn ei 70au yn Wandsworth, Llundain ar Fawrth21.

Mae’r tri wedi cael eu holi o dan amheuaeth o gyhoeddi neu rannu deunydd sydd yn debygol o greu casineb hiliol ac wedi cael eu rhyddhau am y tro.

Ysgogwyd yr ymchwiliad gan ddogfen fewnol Llafur sy’n manylu ar negeseuon cyfryngau cymdeithasol gwrth-semitig y maen nhw’n honni sy’n cael eu postio gan aelodau’r blaid.

Mae’r Blaid Lafur wedi cymryd camau yn erbyn y tri unigolyn, meddai llefarydd, a dydyn nhw ddim yn aelodau bellach.