Mae Llywodraeth Prydain yn cynnig cynnal trydedd bleidlais ar y cytundeb Brexit yfory (dydd Gwener, Mawrth 29), yn ôl Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom.

Mae cytundeb y Prif Weinidog eisoes wedi cael ei drechu dwywaith gan Aelodau Seneddol yn ystod y misoedd diwethaf, er gwaethaf ymdrechion gan Theresa May i’w basio.

Ond er mwyn i wledydd Prydain sicrhau bod Brexit yn cael ei ohirio tan Fai 22, mae’n rhaid i’r cytundeb gael ei gymeradwyo gan Dŷ’r Cyffredin erbyn 11yh yfory – yr amser yr oedd disgwyl i Brexit ddigwydd yn wreiddiol.

Mae cynnal y bleidlais yfory yn ddibynnol ar benderfyniad Aelodau Seneddol i gymeradwyo cynnig y Llywodraeth, yn ogystal â chaniatâd Llefarydd y Tŷ.

Mae John Bercow eisoes wedi dweud nad yw am adael i drydedd pleidlais ar y cytundeb gael ei chynnal, oni bai bod yna “newidiadau sylweddol” yn cael eu cyflwyno iddo.

Yn ystod datganiad Andrea Leadsom gerbron Aelodau Seneddol heddiw (dydd Iau, Mawrth 29), fe awgrymodd hi hefyd y bydd yn rhaid gohirio gwyliau’r Pasg er mwyn parhau â’r broses Brexit.