Mae mudiad Vote Leave yn bwridu apelio yn erbyn dirwyon maen nhw wedi derbyn am dorri cyfreithiau etholiadol.

Roedd Comisiwn Etholiadol wedi cael yr ymgyrchwyr yn euog o dorri rheolau etholiad Gorffennaf 2018, ac wedi rhoi dirwy o £61,000 iddyn nhw.

Ond mae Vote Leave yn bwriadu manteisio ar ei hawl i apelio yn erbyn y dyfarniadm a’r disgwyl ydi y bydd yr achos yn cael ei glywed yn ystod mis Gorffennaf eleni.

Yn ôl Aelod Seneddol yr SNP, Philippa Whifotrd, dylai Vote Leave wynebu cosbau llymach oherwydd “potensial y difrod economaidd y bydd Brexit yn ei achosi”.