Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio yn ardaloedd Bangor a Chaernarfon ar amheuaeth o ddelio cyffuriau.

Cafodd dau ddyn eu harestio yn ninas Bangor ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i’r hyn sy’n cael ei ystyried yn gyffuriau Dosbarth A yn eu meddiant.

Maen nhw hefyd yn credu bod gan y ddau gysylltiadau â ‘Llinellau Sirol’, term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r dechneg gan gangiau i ddosbarthu cyffuriau mewn cymunedau sydd y tu hwnt i’w cadarnleoedd mewn dinasoedd.

Mae’r dyn, 48, yn hanu o Lannau Merswy, tra bod y dyn arall, 32, yn dod o Flaenau Ffestiniog.

Mae’r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad wrth i ymholiadau barhau.

Mewn digwyddiad ar wahân yn nhref Caernarfon, cafodd dyn a dynes leol eu harestio ar ôl i swyddogion ddod o hyd i gyffuriau Dosbarth A mewn eiddo yn ardal Glan Peris.

Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad.