Mae cerbyd wedi ei lenwi â bomiau wedi ffrwydro y tu allan i fwyty yn Mogadishu, prifddinas Somalia.
Yn ôl yr heddlu lleol, fe ddigwyddodd tra’r oedd y bwyty yn ardal Waberi yn llawn cwsmeriaid.
Does dim adroddiadau hyd yn hyn ynglŷn â faint o bobol sydd wedi’u hanafu.
Mae’r grŵp eithafol al Shabab, sydd â chysylltiad ag al-Qaida, wedi bod yn targedu Mogadishu yn ddiweddar.