Mae adeilad 21 llawr ar dân yn Dakha, prifddinas Bangladesh, ac mae gweithwyr wedi’u dal y tu mewn iddo.

Dywed swyddog Gwasanaeth Tan y ddinas bod o leiaf 19 o injanau yn ymladd y fflamau ac yn ceisio achub pobol o dŵr yr FR ar stryd brysur mewn ardal fasnachol.

Does dim modd cadarnhau ar hyn o bryd faint o bobol sydd wedi marw neu wedi’u hanafu yn y digwyddiad, ond mae fideo yn dangos o leiaf un person yn disgyn o’r adeilad wrth geisio dianc.

Mae hofrenyddion y fyddin hefyd yn rhan o’r gwaith achub, ac mae’r gwasanaeth tân yn defnyddio canonau dŵr a lifftiau uchel i wneud eu gwaith.