Mae protestwyr sy’n cefnogi’r wrthblaid yn Albania yn ceisio gorfodi eu ffordd i mewn i’r Senedd, gan alw ar y llywodraeth i ildio’r awenau a chynnal etholiad cynnar.
Mae aelodau o’r Blaid Ddemocrataidd wedi defnyddio bomiau mwg wrth iddyn nhw fynd ben-ben gyda’r heddlu a cheisio cael mynediad i sesiwn wythnosol yn y senedd.
Maen nhw’n cyhuddo’r Blaid Sosialaidd adain chwith a’r Prif Weinidogm, Edi Rama, o fod â chysylltiadau gyda grwpiau llwgwr – honiad y mae’r llywodraeth yn ei wadu.
Ers mis Chwefror, mae cefnogwyr yr wrthblaid wedi bod yn ceisio mynd i mewn i’r Senedd neu adeiladau’r llywodraeth dro ar ôl tro ac mae’r heddlu wedi bod yn ymateb trwy ddefnyddio nwy dagrau a chanonau dŵr yn eu herbyn.
Yn ôl y Sosialwyr mae’r protestiadau’r yn niweidio gobeithion Albania i ymaelodi gyda’r Undeb Ewropeaidd.