Mae dyn, 27, wedi cael ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad yn Llanelli ddechrau’r wythnos.

Mae Robert Samuel o Cross Hands yn wynebu cyhuddiadau sy’n ymwneud â bygwth person gydag arf sarhaus, bygythiadau i ladd a bod ym meddiant cyffuriau dosbarth B.

Cafodd yr heddlu arfog eu galw am 2yb ddydd Mawrth (Mawrth 26) yn dilyn adroddiad bod dyn â bwa saeth yn gwneud bygythiadau i ladd yn y dref.

Bu’n rhaid i’r dyn gael ei gludo i Ysbyty Tywysog Philip fel mater o ragofal ar ôl i swyddogion ei saethu â bwledi rwbel.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyfeirio’r achos at y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Mae Robert Samuel yn parhau yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli y bore yma (dydd Iau, Mawrth 28).