Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi ennyn ymateb chwyrn gan yr SNP ar ôl postio fideo yn honni bod y blaid wedi rhoi cymorth i Margaret Thatcher ennill grym a dal gafael am ddeunaw mlynedd.

Yn y fideo 47 eiliad ar y cyfryngau cymdeithasol mae Jeremy Corbyn yn edrych yn ôl ar y bleidlais diffyg hyder 1979 yn Llywodraeth Llafur James Callaghan – pleidlais a gariodd o un fôt.

Fe bleidleisiodd 11 o Aelodau Seneddol yr SNP gyda’r Ceidwadwyr i ddisodli’r Blaid Lafur bryd hynny, gan orfodi etholiad cyffredinol a agorodd y llifddorau i Margaret Thatcher gymryd yr awenau yn Downing Street.

Yn dilyn y trydariad, mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon yn gofyn iddo “yn lle siarad am bethau wnaeth ddigwydd pan oeddwn yn wyth oed, beth am siarad am arweinyddiaeth heddiw?”

“Gallet ti ddechrau wrth ofyn i ti dy hun pam mae’r arolygon yn dangos eich bod chi’n dal ar ei hôl hi, a’r llywodraeth Dorïaidd gyda’r gwaethaf yn ein hoes”.