Mae comisiwn etholiadol Gwlad Thai yn dweud bod yr holl bleidleisiau wedi’u cyfrif yn etholiad cyffredinol y wlad, ac mai plaid sydd â chefnogaeth y fyddin sydd wedi ennill.

Er nad yw’r canlyniad yn swyddogol eto, y Palang Pracharath sydd ar y blaen.

Roedd y comisiwn wedi dweud yn gynharach mai’r wrthblaid, Pheu Thai, oedd wedi ennill y nifer mwyaf o seddi yn dilyn y bleidlais ddydd Sul (Mawrth 24) – yr etholiad cyntaf ers i’r fyddin gymryd drosodd yn 2014.

Mae dadansoddwyr o bob cwr o’r byd sydd wedi bod yn cadw llygad ar etholiad Gwlad Thai, yn dweud ei fod “yn ddiffygiol”.