Mae cemegau sy’n achosi canser a gwenwyn arall wedi’u canfod o gwmpas Tŵr Grenfell.

Fe gafodd samplau eu casglu o’r tir o fewn can metr i’r bloc fflatiau yn Kensington, gorllewin Llundain, rhyw fis ar ôl y tân ym mis Mehefin 2017 a laddodd 72 o bobol.

Mae tîm ym Mhrifysgol Ganol Lancashire (UCLan) wedi dadansoddi’r pridd a malurion o chwech o fannau gwahanol.

Mae’r astudiaeth, gan Chemosphere, yn dweud bod “halogiad amgylcheddol sylweddol” yn yr ardal o gwmpas y tŵr.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae perygl cynyddol o nifer o broblemau iechyd o’r cemegau hyn gan gynnwys canser ac asthma.