Mae hofrennydd y fyddin wedi plymio i’r ddaear yn Kazakhstan, gan ladd y 13 o bobol oedd ar ei bwrdd.
Mae gweinyddiaeth amddiffyn Kazakhstan wedi cadarnhau fod y milwyr yn rhan o ddril, pan aeth yr hofrennydd i lawr yn ardal Zhalagash yn ne’r wlad.
Roedd yr hofrennydd Mi-8 yn rhan o grŵp oedd yn hedfan o Aktau i Shymkent er y ffin ag Uzbekistan.
Dyw hi ddim yn glir beth achosodd y ddamwain, Mae ymchwiliad ar gweill i geisio sefydlu hynny.