Mae dau o bobol wedi’u lladd wedi i ddyn saethu at gerbydau, yn cynnwys bws, yn ninas Seattle.

Y gred ydi fod y dyn wedi mynd at yrwraig yn ardal Lake City a’i saethu, cyn dechrau tanio at fws Metro gerllaw. Fe lwyddodd gyrrwr y bws i droi rownd a dreifio i le diogel, cyn seinio’r larwm a riportio iddo gael ei saethu.

Fe aeth, wedyn, at yrrwr arall, a saethu hwnnw’n farw.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu, fe ddihangodd y saethwr mewn car, cyn mynd ar ei ben i mewn i gerbyd arall, gan ladd y gyrrwr hwnnw hefyd.

Mae’r gŵr arfog wedi’i arestio, ac mae ef, yr yrwraig gyntaf i gael ei saethu, ynghyd â dreifar y bws, wedi’u cludo i ysbyty i gael triniaeth.