Mae beth bynnag 30 o bobol wedi’u lladd, wedi i lori fynd ar ei phen i mewn i dyrfa oedd wedi ymgasglu ar lôn dywyll yng ngorllewin Gwatemala.
Mae llefarydd ar ran y gwasanaeth tân yn lleol yn dweud fod y bobol ar ochr y ffordd yn edrych ar weddillion damwain flaenorol, pan ddaeth y lori a’u taro.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ger dinas Nahula yn nhalaith Solola.
Mae arlywydd y wlad, Jimmy Morales, wedi trydar neges o gydymdeimlad, gan ddisgtifio’r digwyddiad fel “trasiedi”. Mae hefyd wedi addo y bydd ei lywodraeth yn gofalu am gymorth ariannol i deuluoedd y dioddefwyr.