Bydd hyd at gant o bobol ifanc yng Ngheredigion yn rhan o dreiathlon arbennig ddechrau mis Ebrill er mwyn codi arian ar gyfer achos da.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan fudiad Clybiau Ffermwyr Ifainc y sir, ac mae’n her y mae cadeirydd Ceredigion, sef Caryl Haf o Landdewi Brefi, yn gobeithio ei chyflawni yn ystod ei blwyddyn yn y swydd.
Dros gyfnod o bum awr ar ddydd Sadwrn, Ebrill 6, bydd aelodau rhwng 10 a 26 oed yn gorfod cwblhau 37km o daith, sy’n cynnwys seiclo (30km), cerdded (5km) a rhwyfo (2km).
Bydd y cyfan yn cael ei wneud yn ardal Llanddewi Brefi, gyda’r swm sy’n cael ei godi yn ystod y dydd yn cael ei gyfrannu tuag at y mudiad ei hun a Chymdeithas Alzheimer Cymru.
Gwaith elusennol
“Mae’n bwysig cael ein gweld fel mudiad sy’n cefnogi amryw o elusennau yn ystod y flwyddyn,” meddai Caryl Haf wrth golwg360.
“Mae pob clwb o fewn y sir yn casglu arian ar gyfer elusennau, ac mae’n grêt i weld ein bod ni fel mudiad yn gallu codi arian ar gyfer ni’n hunain, ac hefyd yn cefnogi elusennau ar draws y sir neu ar draws Cymru.
“Mae’n galonogol i weld bod aelodau rhwng 10 a 26 oed yn gallu codi shwd cymaint o arian ar gyfer elusennau yn ystod y flwyddyn.”
Dyma Caryl Haf yn sôn ychydig am yr her..