Fe fydd dau o glybiau pêl-droed mwyaf Ewrop yn herio’i gilydd yng Nghaerdydd ym mis Awst.

Bydd Manchester United yn wynebu AC Milan yn Stadiwm Principality ar Awst 3 wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y tymor newydd.

Byddan nhw hefyd yn herio Inter Milan yn Singapôr a Spurs yn Shanghai fel rhan o’u paratoadau at dymor 2019/20.