Fe fydd cefnogwyr Clwb Criced Morgannwg yn cael cyfle i drafod gaeaf o newidiadau i’r clwb mewn fforwm arbennig ar ddiwrnod cynta’r tymor.

Bydd tymor sirol Morgannwg yn dechrau gyda gêm yn erbyn Swydd Northampton ym Mhencampwriaeth y Siroedd ar Ebrill 11.

Yn ystod amser cinio ar y diwrnod cyntaf, fe fydd cyfle i holi’r Cyfarwyddwr Criced newydd Mark Wallace, y prif hyfforddwr newydd Matthew Maynard a’r prif weithredwr Hugh Morris.

Cafodd Mark Wallace ei benodi i’w swydd ar ôl i swydd Hugh Morris gael ei hollti’n ddwy, a chafodd Matthew Maynard ei benodi yn dilyn diswyddo Robert Croft.

Mae gan y clwb gapten newydd erbyn hyn hefyd, gyda Chris Cooke yn gyfrifol am y tîm yn y Bencampwriaeth yn lle Michael Hogan.

Bydd tri fforwm yn cael eu cynnal yn ystod y tymor.

Bydd yr ail yn cael ei gynnal yn ystod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Middlesex ym mis Gorffennaf, a’r un olaf yn ystod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr ym mis Medi.