Mae arweinydd Hamas wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf ers i’r ymladd ail-ddechrau yn erbyn Israel yr wythnos hon.

Yn ôl Ismail Haniyeh, “mae Israel wedi cael y neges,” ar ôl iddyn nhw danio roced tuag at dŷ yng nghanol y wlad, gan anafu saith o bobol.

Mae arweinydd Hamas wedi bod i weld y rwbel lle bu ei swyddfa yn ninas Gaza sydd wedi cael ei ddinistrio gan daflegryn o Israel.

Roedd yr ymateb hwnnw yn cynnwys tanio dwsinau o rocedi at Gaza, tra’r oedd gwrthryfelwyr o Balestina yn tanio rhai tuag at Israel.

Bu Ismail Haniyeh yn cuddio yn ystod yr ymladd ddydd Llun (Mawrth 25), a ddoe (dydd Llun, Mawrth 26), ond mae pethau wedi distewi ers i’r ddwy wlad roi’r gorau i saethu.

Nawr, mae Ismail Haniyeh yn annog pobol Gaza i gymryd rhan mewn protestiadau torfol ar hyd ffîn Israel a Gaza ddydd Sadwrn (Mawrth 30).