Fe fydd Theresa May yn cadeirio cyfarfod ar drais difrifol, wrth i Aelodau Seneddol erfyn arni i gynyddu cyllideb yr heddlu.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, Mawrth 27) y bydd hi’n cyfarfod y cynulliad o weinidogion, arweinwyr cymunedau, asiantaethau ag arbenigwyr i geisio cael at wraidd beth sy’n achosi’r cynnydd mewn trais difrifol.

Daw wrth i Aelodau Seneddol feirniadu’r modd y mae cyllidebau heddluoedd wedi cael eu torri. Dyna sy’n cael ei nodi fel yr achos y tu ôl i’r cynnydd mewn troseddau yn ymwneud â chyllyll.

“Toriadau anystyriol”

Mae troseddau treisgar wedi cynyddu 19% yng ngwledydd Prydain, ac mae lladrata wedi codi 17%.

Yn ôl Theresa May, mae Heddlu De Cymru yn gweld cynnydd yn eu cyllideb yn 2019/20, ac mae’n mynnu ei bod wedi “diogelu gwariant yr heddlu ers 2015 mewn gwrthgyferbyniad uniongyrchol â’r Blaid Lafur a awgrymodd y dylai’r gyllideb gael ei dorri 10%”.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Llun nesaf (Ebrill 1)