Mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn ceisio ymdrin â llif olew ar arfordir Iwerydd y wlad, wedi i long o’r Eidal suddo wedi tân.
Mae timau achub o Ffrainc a gwledydd Prydain wedi achub 27 o bobol oddi ar fwrdd y Grande America wedi iddi fynd i lawr ddydd Mawrth (Mawrth 12).
Mae lluniau sydd wedi rhyddhau heddiw gan lynges Ffrainc, yn dangos fflamau a mwg du yn dod o’r llong. Mae’r awdurdodau yn amcangyfrif bod yr olew sydd wedi llifo ohoni yn gorchuddio ardal o chwe milltir.
Roedd y llong yn cario tua 2,000 tunnell o olew cyn y ddamwain.