Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau nad ydyn nhw erioed wedi bod mewn partneriaeth â chwmni technolegol dadleuol o Tsieina.
Daw hyn wedi i Brifysgol Caerdydd ddatgelu eu bod yn “cydweithio” â Huawei, ond eu bod hefyd yn “cadw llygad” ar y cwmni technoleg.
Mae cwestiynau wedi codi am berthynas y cwmni â sawl coleg yn y Deyrnas Unedig.
Ac ym mis Ionawr cyhoeddodd Prifysgol Rhydychen y byddan nhw’n gwrthod derbyn rhagor o arian wrth y cwmni technoleg oherwydd “pryderon cyhoeddus”.
Mae yna ofidion bod y cwmni technoleg a Llywodraeth Tsieina yn glos, ac mae sawl gwlad wedi honni y gallai eu hoffer cael eu defnyddio ar gyfer ysbïo.
Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan golwg360, mae Aberystwyth wedi datgelu rhagor am eu cysylltiad â’r cwmni.
Cyflenwad pŵer
Ers 2016 mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn defnyddio system ‘cyflenwad pŵer na ellir ei darfu’ (uninterruptible power supply, neu UPS) gan y cwmni o’r enw Huawei UPS 5000A.
Mae’r UPS yn cael ei ddefnyddio er mwyn cadw’r cyflenwad pŵer yn y brifysgol yn fyw pan mae’r prif gyflenwad pŵer yn methu.
Yn 2015, penderfynodd y brifysgol newid ei hen UPS gan ei fod yn anodd ei gynnal.
Thamesgate Group Limited, oedd yn cyflenwi’r UPS newydd yn wreiddiol – nid Huawei – ond bellach mae’r cytundeb â’r cwmni electroneg Seisnig wedi dod i ben.
Dim “cysylltiadau”
Dyw Prifysgol Aberystwyth erioed wedi derbyn arian gan Huawei, a dydyn nhw erioed wedi bod mewn partneriaeth gyda’i gilydd.
“Roedd cyhoeddiad Rhydychen yn ymwneud â derbyn rhoddion dyngarol ac ariannu cytundebau ymchwil newydd gyda Huawei,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth.
“Nid yw Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud cyhoeddiad tebyg am nad yw cysylltiadau o’r fath yn bodoli.”