Mae chwech o bobol wedi cael eu lladd ar ôl cwymp mewn gwaith aur yn Indonesia.
Mae gwasanaethau achub wedi creu eu hoffer eu hunain er mwyn ceisio cael at unrhyw weithwyr sydd wedi goroesi er mwyn eu tynnu allan yn ddiogel.
Yn ôl swyddog trychineb yn ardal Bolaang Mongondow yng Ngogledd Sulawesi, mae 19 o bobol wedi cael eu hachub hyd yn hyn, ond mae tua 40 yn dal yn sownd heddiw (dydd Iau, Chwefror 28).
Fe ddigwyddodd y cwymp yn y gwaith di-drwydded, ar ôl i ffrâm bren dorri o ganlyniad i bridd yn cael ei symud.