Fe fu’n rhaid i rai pobol Kashmir ffoi o’u cartrefi neithiwr (nos Fercher, Chwefror 27) wrth i filwyr Pacistan ac India saethu at ei gilydd drwy’r nos.
Daw hyn ddiwrnod ar ôl i lywodraeth Pacistan ddatgan eu bod wedi saethu dwy awyren India a dal un o’r peilotiaid yn wystl.
Mae’r ddwy wlad yn ymladd dros reolaeth Kashmir ar ôl i densiynau gynyddu ar Chwefror 14 pan laddodd bom car dros 40 o filwyr India yn y rhanbarth.
Mae aelodau o’r Bharitiya Janata, sef Plaid Prif Weinidog India – Narendra Modi – wedi galw am fwy o ymyrraeth gan y fyddin, ac yn rhagweld y bydd y gwrthdaro yn gwaethygu.
Ar yr ochr arall, mae Prif Weinidog Pacistan – Imran Khan – wedi galw am drafodaethau rhwng y ddwy wlad niwclear.
Dydd Mercher oedd diwrnod gwaethaf y gwrthdaro ers 1999.