Fe fydd y Blaid Lafur yn gwthio am ail refferendwm ar Brexit cyn gynted ag y bydd Theresa May yn dod â’i chytundeb yn ôl gerbron Ty’r Cyffredin.
Yn ôl Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, bydd Llafur yn cymryd y cyfle cyntaf i weld os yw Aelodau Seneddol yn cefnogi pleidlais gyhoeddus.
Er hynny, fe bwysleisiodd y bydd y blaid yn parhau i wthio ei gweledigaeth ei hun ar Brexit, a’i bod yn dal i alw am etholiad cyffredinol.
Fe gafodd cynllun Brexit y Blaid Lafur ei drechu o 240 pleidlais i 323 yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (nos Fercher, Chwefror 28) a cadarnhaodd yr arweinydd, Jeremy Corbyn, y byddai’r blaid yn cefnogi refferendwm os oes posibilrwydd o ymadawiad heb gytundeb.
Fe ychwanegodd y byddai Llafur hefyd yn parhau i gefnogi “opsiynau eraill sydd ar gael” i atal cytundeb y Prif Weinidog, Theresa May, neu i sicrhau nad yw gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Mae Jeremy Corbyn wedi dod dan bwysau gan rengoedd Llafur yn ddiweddar i daflu holl bwysau’r blaid y tu ôl i ail refferendwm.