Mae arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ac arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un wedi torri eu cyfarfod yn fyr ar ôl methu â dod i gytundeb.

Fe gododd y ddau oddi wrth y bwrdd ychydig oriau’n unig ar ôl iddyn nhw fod yn sôn am “agosáu” a “greu perthynas well rhwng y ddwy wlad”.

Mae’n ymddangos bod Donald Trump am dynnu ychydig o’r pwysau oddi ar Ogledd Corea, gan ddatgan “nad oes brys” ac mai “taro’r fargen iawn sy’n bwysig”.

Yn ôl ysgrifennydd y Tŷ Gwyn, Sarah Sanders, fe gafodd yr arweinwyr “gyfarfod da ac adeiladol” gan drafod ffyrdd i symud ymlaen gyda syniadau economaidd a niwclear.

Pan ofynnwyd i Kim Jong Un os oedd yn barod i gael gwared â’i arfau niwclear, dywedodd “os na faswn i’n barod i wneud hynny, faswn i ddim yn fan hyn”.

Wrth ymateb i’r syniad o’r Unol Daleithiau yn creu swyddfa gyswllt yng Ngogledd Corea, dywedodd Donald Trump “nad yw’n syniad drwg” a galwodd Kim Jong Un y syniad yn un ” i’w groesawu”.